Beth yw Cynhadledd Amddiffyn Plant?
Mae Cynhadledd Amddiffyn Plant yn gyfarfod a gynhelir os bydd pryderon sylweddol ynglŷn â phlant neu blentyn neu os yw plentyn wedi’i anafu.
Beth fydd yn digwydd mewn cynhadledd?
Bydd rhywun a elwir yn Swyddog Adolygu Amddiffyn Plant (Cadeirydd) yn cadeirio’r cyfarfod.
Ni fydd wedi bod yn ymchwilio i’r pryderon ynghylch y plentyn, mae hyn i sicrhau ei fod yn annibynnol.
Pan fyddwch yn cyrraedd y gynhadledd bydd y Cadeirydd yn cwrdd â chi ac yn esbonio beth fydd yn digwydd, beth fydd y gynhadledd yn ei drafod a bydd yn gallu ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych chi o bosibl.
Pwy fydd yn bresennol?
- Rhieni a gofalwyr
- Gweithiwr Cymdeithasol y Plentyn
- Ymwelydd Iechyd y Plentyn, Nyrs Iechyd yr Ysgol neu’r Meddyg
- Swyddog Amddiffyn Plant Heddlu yn ei ddillad ei hun
- Athro/athrawes y Plentyn
- Y Cadeirydd
- Ysgrifennydd Cofnodion i ysgrifennu’r hyn sy’n digwydd
- Eiriolwr y Plentyn
Weithiau bydd pobl eraill o bosibl:
- Cyfieithwyr ar y pryd
- Cyfreithwyr
- Unrhyw berson arall sy’n ymwneud â’ch helpu chi a’ch teulu
A gaf i ddod i’r cyfarfod?
Cewch, yn wir byddai’n well gennym eich bod yn gwneud hynny. Fel rhieni, fe’ch gwahoddir oherwydd bod eich barn yn bwysig iawn. Mae croeso hefyd i’r plant sy’n ymwneud â hyn os gallant ddeall y materion.
Yn achlysurol, efallai bydd rhaid i ni ofyn i rieni adael am gyfnod byr os bydd angen rhannu gwybodaeth gyfrinachol. Weithiau bydd rhaid i rieni gael eu heithrio o’r gynhadledd gyfan, ond mae hyn yn brin iawn Os bydd rhaid i chi adael, bydd y cadeirydd yn esbonio hyn i chi a dweud wrthoch chi pam o flaen y gynhadledd.
Cewch chi ddewis dod â rhywun gyda chi. Gallech chi ddewis ffrind, aelod o’r teulu neu gyfreithiwr. Os bydd rhywun yn dod gyda chi, gallant ond eich cefnogi – ni ddylent ymuno yn y trafodaethau. Ond os byddwch yn teimlo y gallant helpu trwy ddarparu gwybodaeth bwysig, dylech chi drafod hyn gyda’r cadeirydd cyn i’r cyfarfod ddechrau. Os byddwch yn dewis rhywun i ddod gyda chi, cofiwch y byddant yn clywed gwybodaeth sy’n bersonol i chi a’ch teulu, Mae’n bosibl y bydd hyn yn cynnwys collfarnau perthnasol.
Beth os na fyddaf yn dod i’r Cyfarfod?
Os am unrhyw reswm nad ydych yn dymuno dod i’r cyfarfod, bydd rhywun arall megis eiriolwyr neu weithiwr cymdeithasol eich plentyn yn cyfleu eich barn a’ch teimladau yn y gynhadledd. Bydd eich Gweithiwr Cymdeithasol yn eich gweld cyn y cyfarfod er mwyn dangos i chi beth mae’r adroddiad gwaith cymdeithasol yn dweud ac yn gofyn i chi am eich barn, fel y gall ddweud wrth y gynhadledd yr hyn rydych yn ei feddwl.
Os bydd yn well gennych, gallwch roi eich barn yn ysgrifenedig a bydd y cadeirydd yn ei ddarllen i’r gynhadledd. Fel arall, gallwch chi siarad â’r cadeirydd cyn y gynhadledd. Bydd ei rif cyswllt yn eich llythyr gwahoddiad. Byddwn bob amser yn gwneud ein gorau glas er mwyn sicrhau bod y gynhadledd yn gwybod beth rydych yn ei feddwl a sut rydych yn teimlo am y sefyllfa.
Boed i chi fod yn bresennol neu beidio, byddwn yn rhoi copi o gofnodion y gynhadledd i chi fel eich bod yn gwybod beth ddigwyddodd.
Pa benderfyniadau a Wneir yn y Gynhadledd?
Bydd rhaid i’r gweithwyr proffesiynol yn y gynhadledd benderfynu a ddylid rhoi enwau eich plentyn neu eich plant ar y Gofrestr Amddiffyn Plant, neu os yw eu henwau eisoes ar y Gofrestr Amddiffyn Plant, a ddylent aros arni. Bydd eu henwau’n aros ar y gofrestr hyd nes bod pethau wedi gwella.
Beth yw Cofrestr Amddiffyn Plant?
Mae’r Gofrestr Amddiffyn Plant yn rhestr o’r holl blant yn yr ardal y mae gweithwyr proffesiynol yn credu nad ydynt yn ddiogel o bosibl. Mae’n hynod gyfrinachol ac ond ychydig o bobl yn unig a fydd yn gwybod enw pwy sydd arni. Mae’n rhaid i’r holl weithwyr proffesiynol sy’n mynychu’r gynhadledd ddilyn rhai safonau penodol o’r enw Gweithdrefnau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan. Ni ellir rhannu cofnodion y gynhadledd gydag unrhyw un arall heb ganiatâd y cadeirydd.
Beth sy’n digwydd os bydd fy Mhlentyn yn cael ei Gofrestru?
Ysgrifennir cynllun sy’n amlinellu beth a wneir i amddiffyn y plant gan y gweithwyr proffesiynol sy’n ymwneud â’u lles, a fydd wedi rhoi gwybod i chi am y cynllun. Caiff grŵp llai o’r enw’r Grŵp Craidd ei sefydlu er mwyn sicrhau y dilynir y cynllun.
Bydd y Grŵp Craidd yn cyfarfod pob mis rhwng cynadleddau. Fel gyda’r gynhadledd, gallwch ddod i’r cyfarfodydd hyn, ac os byddwch yn dewis peidio, bydd rhywun arall megis eiriolwr neu eich Gweithiwr Cymdeithasol yn rhoi eich barn a’ch teimladau yn y cyfarfod.
Ymyrraeth Gyfreithiol
Mae’n bosibl y bydd y gynhadledd yn argymell bod Gwasanaethau Plant yn ceisio cyngor cyfreithiol.
Beth gallaf ei wneud os na fyddaf yn Hapus?
Er y byddwn yn gwrando ar eich barn a’ch teimladau, ni allwn addo gwneud yr hyn rydych chi eisiau i ni ei wneud. Os hoffech chi siarad â rhywun am y cyfarfod, gwneud cwyn neu os oes angen unrhyw gymorth arnoch chi, cysylltwch â Gweithiwr Cymdeithasol y plentyn, y Swyddog Cwynion, neu gofynnwch am ragor o wybodaeth am sut i wneud cwyn.
Cyfeiriad y Swyddog Cwynion yw:
xxxxxxxxxxx
xxxxxxxxxxx
xxxxxxxxxxx
XXXXXXXX